Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Mehefin 2025
Amser:
14.00 – 15.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15141
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Carolyn Thomas AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Vaughan Gething AS Luke Fletcher AS |
|
Tystion: |
|
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
2.2 Datganodd
Vaughan Gething AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol
Sefydlog 17.24A: Mae'n Aelod o Unison.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd gydymdeimlad ag ymgyrch y deisebydd, gan gydnabod pwysigrwydd craffu ar weithrediad y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn sicrhau bod y system yn gweithredu'n effeithiol. Mae'n ymddangos bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac mae disgwyl iddo wneud datganiad gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf, wrth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg barhau i fonitro'r sefyllfa'n weithredol.
Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored tra mae’n aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn y cyfamser, i gyfeirio'r ddeiseb at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ystyried ei adolygiad parhaus o'r diwygiadau ADY. Gwnaethant hefyd, fodd bynnag, bwysleisio pwysigrwydd osgoi dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan bwyllgor arall.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer dyrannu adnoddau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) 2025–26, o fewn fframwaith y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored wrth iddynt aros am ymateb, ac i'w chau unwaith y ceir yr ymateb.
Yn dilyn trafodaeth fanwl am gamau gweithredu posibl oherwydd bod pensiynau yn fater a gedwir yn ôl, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, at Ysgrifennydd y Cabinet ac at Bartneriaeth Pensiynau Cymru i ofyn am y blaenoriaethau buddsoddi ar hyn o bryd, a blaenoriaethau yn y dyfodol, ac am y dull o fuddsoddi i gefnogi twf yr economi yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy, yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nododd yr Aelodau mor bwysig oedd mabwysiadu dull cyson o ymdrin â deisebau sy'n cyffwrdd â meysydd polisi sydd wedi'u cadw'n ôl i raddau helaeth.
Gan nad yw'n ymddangos yr effeithir ar y cyrsiau hyn bellach, er bod camau'n cael eu cymryd ar fater cyllid Addysg Uwch yn fwy cyffredinol, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y sefyllfa ym Mhrifysgol De Cymru, nododd y canlyniad cadarnhaol, a chau'r ddeiseb.
Cydnabu’r Pwyllgor bwysigrwydd y ddeiseb, yn enwedig gan iddi gael ei chyflwyno gan ddysgwr Blwyddyn 6, a mynegodd edifeirwch na ellid darparu ymateb mwy cadarnhaol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, ond wrth wneud hynny, roedd yn llongyfarch y disgybl am ddwyn sylw at y mater. Pwysleisiodd yr Aelodau fod y ddeiseb yn enghraifft ardderchog o sut y gall unigolion, gan gynnwys pobl ifanc, ymgysylltu â'r Senedd i godi materion pwysig, a diolchasant i'r deisebydd am gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at yr ysgol i gydnabod ymgysylltiad dysgwyr Blwyddyn 6 yn y broses ddeisebu, a'u llongyfarch ar eu hymgyrch, ac i ysgrifennu at y mudiad Menywod Nodedig yng Nghymru yn uniongyrchol ynglŷn â'r ddeiseb a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau yn y dyfodol sy'n ymwneud â cherflun coffaol i Rachel Williams.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o reoliadau ynghylch Dŵr Ymdrochi a chanllawiau cysylltiedig â hwy. Byddem yn rhoi copi o’r ymateb i'r deisebydd, ond, cytunodd yr Aelodau mai mater i’r awdurdodau lleol yw cyfyngiadau ar fynd â chŵn am dro, ac felly diolchasant i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y llythyr cynhwysfawr oddi wrth Trac Cymru, a oedd yn tynnu sylw at rai o'u llwyddiannau diweddar a'u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Croesawodd yr Aelodau gyhoeddiad sydd ar ddod ynghylch adolygiad o gerddoriaeth draddodiadol, a gynhyrchir mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru. Nodwyd y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn helpu i lunio'r ddadl ynghylch gofynion ariannu yn y dyfodol. O ystyried y bydd y gwaith hwn a'i argymhellion bellach yn destun trafodaethau rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Gweinidogion, diolchodd y Pwyllgor i'r deisebwyr am godi'r mater a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb, a nododd fod tynnu sylw at y ddeiseb wedi bod yn ddefnyddiol i'r Gweinidog wrth iddo hyrwyddo'r mater gyda Llywodraeth y DU. Cytunwyd i gadw'r ddeiseb ar agor am y tro ac i ysgrifennu unwaith eto at y Gweinidog yn y gobaith y byddai modd sicrhau canlyniad terfynol cadarnhaol yn fuan.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a, chan fod camau eisoes yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a bod ymgynghoriad ar y gweill, cytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Aelodau o’r Senedd lleol at y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ofyn am gynnal dadl arni yn y Senedd. Cytunwyd hefyd i anfon cwestiynau a phryderon pellach y deisebydd ynghylch polisi cynllunio at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr a gwahodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Wrecsam, ac Enovert i roi tystiolaeth lafar ar sut maen nhw'n ymdrin â phryderon y deisebwyr. Cynigiwyd y byddai hyn yn digwydd yn nhymor yr hydref i ganiatáu amser i grŵp rhanddeiliaid yr Hafod, a’r grŵp trigolion wneud rhagor o waith, ac i fesurau adfer Enovert gael eu gweithredu'n llawn.